Mae Barcud wedi cyfrannu rhoddion i oergelloedd cymunedol a banciau bwyd ledled y canolbarth y Nadolig hwn. Mae 13 o gyfraniadau wedi’u rhoi ar draws Ceredigion a Phowys er mwyn cynnig cymorth dros gyfnod yr ŵyl.
Mae gwaith y gwirfoddolwyr a’r cefnogwyr sy’n gofalu am yr oergelloedd cymunedol a’r banciau bwyd hyn yn cyffwrdd rhywun. Mae ein tîm Tai a’n tîm Cynnal yn ddiolchgar am eu help drwy gydol y flwyddyn.
Mae un o’r cyfleusterau gwerthfawr hyn yn Aber-porth. Cafodd yr Oergell Gymunedol ei lansio ym mis Hydref 2021. Mae gan y prosiect yng Nghanolfan Dyffryn dros 50 o wirfoddolwyr ac mae’n fwrlwm o weithgarwch.
Mae Nicola King yn gweithio ar y prosiect fel cydlynydd yr Oergell Gymunedol. Mae’n cydlynu’r trefniadau casglu ar gyfer y prosiect o’r Co-op yng Nghastellnewydd Emlyn, Tesco ac Aldi, Sara a Meirion yn Aber-porth a Dewi James, y cigydd, yn Aberteifi. Mae hefyd yn agor y ganolfan i’r cyhoedd yn ystod yr wythnos. Mae’r prosiect yn cynorthwyo’r gymuned i leihau gwastraff bwyd ac yn helpu teuluoedd ac unigolion yn yr ardal i gael gafael ar fwyd o safon, am ddim, pan fyddant mewn angen. Eisoes ym mis Rhagfyr, mae Oergell Gymunedol Aber-porth wedi arbed 622 cilogram o fwyd rhag mynd yn wastraff.
Nid oes angen talu am fwyd o’r Oergell Gymunedol, ond weithiau bydd rhai unigolion sy’n cefnogi’r fenter yn rhoi cyfraniad bach fel arwydd o ddiolch. Mae’r prosiect hwn yn achubiaeth i lawer. Dros y Nadolig, aeth Nicola a’i thîm o wirfoddolwyr ati i baratoi a dosbarthu 32 o hamperi bwyd Nadolig. At hynny, cafodd dros 50 o focsys o fisgedi eu dosbarthu i bobl hŷn yn Aber-porth, a fydd ar eu pen eu hunain dros y Nadolig. Cafodd y danteithion hyn a ddosbarthwyd i stepen y drws groeso mawr gan y sawl a fydd yn treulio’r Nadolig ar eu pen eu hunain.
Mae’r prosiect wedi dod yn adnodd pwysig i’r gymuned wledig hon ac mae’r adborth wedi bod yn galonogol. Meddai Nicola, “Rydym yn dibynnu ar bobl yn Aber-porth i roi gwybod i ni pwy sydd angen cymorth gennym. Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo’n rhan o’r gymuned ar adeg o’r flwyddyn sy’n gallu gwneud i chi deimlo’n unig os ydych ar eich pen eich hun.” Hoffai Nicola ddiolch hefyd i’r holl fusnesau a’r holl unigolion lleol, Cyngor Cymuned Aber-porth, eglwys y pentref a’r ysgol leol am eu holl waith caled yn dod â’r prosiect ynghyd.
Meddai Kate Curran, Cyfarwyddwr Grŵp Cyllid a TG yn Barcud, “Mae’r elusennau hyn yn darparu cymorth amhrisiadwy i’n tenantiaid a’n staff. Mae dyfeisgarwch ac ymrwymiad eu gwirfoddolwyr yn wych.
Rydym yn falch iawn o allu eu helpu i barhau â’r gwasanaeth ardderchog y maent yn ei ddarparu ar gyfer cymunedau’r canolbarth.”
Yn ogystal â’r hyfforddiant a’r cymorth a gynigir i wirfoddolwyr gan Oergell Gymunedol Aber-porth, un o’r prosiectau newydd y mae Nicola yn ei gydlynu ar hyn o bryd yw’r ardd gymunedol i dyfu ffrwythau a llysiau. Drwy gompostio unrhyw gynnyrch gwastraff o’r oergell, mae’r gwirfoddolwyr yn gallu gwneud yn siŵr bod ffrwythau, llysiau a pherlysiau ffres, cynaliadwy a hygyrch ar gael i’r gymuned yn 2022.
At hynny, mae Nicola wrthi’n brysur yn sefydlu Clwb Coffi wythnosol ar gyfer y Flwyddyn Newydd er mwyn mynd i’r afael ag unigrwydd yn ystod misoedd y gaeaf. Bydd coffi am ddim, cacen a chroeso cynnes ar gael yng Nghanolfan Dyffryn – os bydd cyfyngiadau Covid yn caniatáu. Cysylltwch â Nicola ar 07368 327654 i gael rhagor o wybodaeth.