Mae Barcud a’i is-gwmnïau, sef Gofal a Thrwsio Powys ac EOM Electrical Contractors Ltd (EOM), yn chwilio am aelodau Bwrdd i ymuno â’r tîm.
Barcud yw cymdeithas dai fwyaf newydd Cymru. Ynghyd â’i is-gwmnïau, sef Gofal a Thrwsio Powys ac EOM Electrical Contractors Ltd (EOM) – ein cwmni cynnal a chadw masnachol, cafodd y gymdeithas dai ei chreu ym mis Tachwedd 2020 ar ôl uno Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru.
Mae ganddi dros 4,000 o gartrefi a throsiant o dros £25 miliwn, felly Barcud yw’r gymdeithas dai fwyaf sydd â’i gwreiddiau yng nghymunedau’r canolbarth ac mae’n cyflogi bron 300 o staff. Mae ei his-gwmnïau yn cyfrannu £3 miliwn arall at y trosiant ac yn cyflogi 100 o staff.
Mae Barcud yn fwy na chymdeithas dai; yn ogystal â darparu gwasanaethau landlord, mae hefyd yn cynnig atebion cynhwysfawr i faterion ym maes tai, gwaith cynnal a chadw a chymorth drwy’r tri is-gwmni sy’n rhan ohono. Mae cynnwys tenantiaid a phreswylwyr yn wirioneddol yng ngwaith y gymdeithas dai yn elfen sylfaenol o’r modd y mae Barcud yn gweithio. I gael gwybod mwy am y lleoedd gwag sydd ar y Byrddau, ewch i’n tudalen recriwtio.