Cymdeithas Tai Barcud yn mynd allan i ymgynghoriad

Mae Cymdeithas Tai Barcud wedi comisiynu Asbri Planning Ltd i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio ar safle datblygu yng nghanol Cei Newydd. Gallai’r safle arfaethedig gynnwys tai fforddiadwy y mae galw mawr amdanynt ar gyfer pobl leol ac ad-drefnu maes parcio presennol y dref.

Bydd y cynnig yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio a fydd yn cael ei gwblhau cyn cyflwyno’r cais ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn unol â’r gofynion a nodir yn Rhan 1A Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.

Mae arddangosfa gyhoeddus yn cael ei chynnal ar y 4ydd o Fehefin rhwng 13:00 a 18:00 yn Neuadd Goffa, Ffordd Towyn, Cei Newydd, lle bydd y cynigion yn cael eu harddangos.   Bydd aelodau o tîm Datblygu Barcud a thîm dylunio Asbri ar gael i ateb unrhyw gwestiynau.   Bydd y cais arfaethedig, cynlluniau a dogfennau ategol eraill yn cael eu harddangos er mwyn caniatáu i drigolion lleol, darpar drigolion newydd a’r gymuned ehangach gael teimlad o’r prosiect.

Gan gydnabod anghenion amrywiol ein rhanddeiliaid, rydym wedi sicrhau bod yr holl wybodaeth ar gael ar-lein yn: https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/central-car-park-lower-towyn-road-new-quay/ Mae hyn yn sicrhau bod hyd yn oed y rhai na allant fynychu’r digwyddiad yn y Neuadd Goffa yn gallu cael gafael ar y manylion a rhoi eu hadborth.

I’r rhai nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd, mae cyfleusterau cyfrifiadurol ar gael yn Llyfrgell Gymunedol Cei Newydd, Ystafell 4 Neuadd Goffa, Heol Towyn, Cei Newydd, Ceredigion (ar agor dydd Mawrth a dydd Iau 3:30pm – 5:30pm, dydd Gwener 5:45pm-7: 00pm).   Mae eich adborth yn hollbwysig i ni. Rydym yn gwerthfawrogi eich mewnwelediad a’ch safbwyntiau, ac rydym yn annog yr holl randdeiliaid i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Bydd eich mewnbwn yn helpu i lunio dyfodol y safle datblygu arfaethedig