Croeso i Barcud Cyf, cymdeithas dai deinamig a ffurfiwyd drwy uno yn 2020. Mae ein sefydliad yn cyfuno arweinyddiaeth gref, rheoli tai, ac arbenigedd datblygu i greu busnes uchelgeisiol, blaengar. Mae’r uniad strategol hon wedi gosod Barcud mewn sefyllfa i gymryd camau hyderus i ddatblygu tai fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu a darparu gwasanaethau cymorth tai i’n tenantiaid. Mae hefyd wedi caniatáu inni feithrin mwy o gyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru. Mae Barcud yn ymroddedig i gefnogi busnesau lleol ac ail-fuddsoddi yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Ymunwch â ni wrth i ni weithio tuag at adeiladu dyfodol gwell, mwy cynaliadwy i bawb
GERTHOEDD BRAND
Ymrwymaid
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu sylfeini cadarn ar gyfer bywyd
Balchder
Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith ac yn falch o’i wneud yn dda
Parch
Rydym yn parchu’r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw ac iddyn nhw ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad
Gofal
Mae ein pobl, ein cymunedau, ein diwylliant, ein gwlad a’r amgylchedd yn bwysig i ni
Gyda’n Gilydd
Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr, tenantiaid a phartneriaid i greu cymunedau cryfach