Mae EOM yn gwmni masnachu annibynnol ac yn un o isgwmnïau Barcud. Mae’n cynnig ystod eang o wasanaethau yn y canolbarth a’r gorllewin, megis gwaith contractio trydanol, gwaith yn ymwneud â data, gosod nenfydau crog, cynnal archwiliadau a phrofion a chyflawni gwaith ar larymau tân a goleuadau argyfwng.
Mae EOM hefyd yn darparu gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw o safon i’r sector cyhoeddus a chartrefi preifat. I gael gwybod mwy:
Gwella cartrefi, newid bywydau a helpu pobl hŷn ac anabl i aros gartref yn gysurus ac yn ddiogel
Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn un o isgwmnïau Barcud, sydd â’i swyddfa yn Nhŷ Canol yn y Drenewydd. Mae’n darparu arbenigedd, cyngor a chymorth ymarferol i bobl hŷn neu bobl ag anableddau, y mae angen i’w cartref gael ei atgyweirio, ei adnewyddu neu’i addasu. Mae’n gwneud hynny er mwyn helpu pobl i barhau i fyw gartref yn annibynnol, yn gysurus ac yn ddiogel. I gael gwybod mwy:
Mae’r Gymdeithas Gofal yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, sy’n darparu gwasanaethau tai, gwasanaethau digartrefedd a gwasanaethau cymorth ar draws y canolbarth. Mae’n sefydliad blaengar sy’n darparu gwasanaethau hanfodol ar draws ardaloedd gwledig Cymru, ac mae’n helpu i wella ansawdd bywyd pobl a mynd i’r afael â nifer gynyddol o broblemau cymdeithasol.
Mae Bwrdd, Tîm Rheoli a staff profiadol y Gymdeithas Gofal yn golygu bod ganddi’r mentergarwch a’r awydd i ddatblygu’r sefydliad a datblygu gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion amrywiol pobl sy’n fregus yn ein cymuned. I gael gwybod mwy: