Yn Barcud, byddwn yn ymfalchïo yn ein gwaith ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn ei wneud yn dda.
Os oes gennych rywbeth y mae angen ei atgyweirio, gallwch sôn amdano drwy ddefnyddio un o’r dulliau isod.
RHESTR WIRIO
Angen gwaith atgyweirio? Dyma ragor o wybodaeth am ein gwasanaeth
- Rydym yn darparu gwasanaeth atgyweirio o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ogystal â gwasanaeth atgyweirio mewn argyfwng ‘y tu allan i oriau gwaith arferol’, a ddarperir gan Llesiant Delta.
- Byddwn yn ceisio creu archeb waith ar y diwrnod y byddwch yn gofyn am waith atgyweirio, oni bai bod angen i ni archwilio’r diffyg yn gyntaf.
- Lle bo modd, byddwn yn cynnig apwyntiad a fydd yn gyfleus i bawb neu’n ceisio cwblhau’r gwaith atgyweirio fel a ganlyn:
- Gwaith atgyweirio mewn argyfwng cyn pen 24 awr
- Gwaith atgyweirio brys cyn pen 5 diwrnod
- Gwaith atgyweirio arferol, nad yw’n waith brys, cyn pen 28 diwrnod
Rydym yn gweithio’n galed i gael ein ffurflen ar gyfer cysylltu â ni i weithio unwaith eto.
Os hoffech gysylltu â ni drwy ebost, defnyddiwch y ddolen gyswllt isod: