GYDA NI
Swyddi Gwag Cyfredol
-
Saer Coed
Postio:
18/11/2024Dyddiad cau:
11/12/2024Lleoliad:
Ceredigion -
Peiriannydd Gwresogi
Postio:
18/11/2024Dyddiad cau:
11/12/2024Lleoliad:
Ceredigion -
Swyddog Cytundebau
Postio:
22/11/2024Dyddiad cau:
17/01/2025Lleoliad:
Ceredigion -
Swyddog Atgyweirio Ymatebol (cyfnod mamolaeth)
Postio:
05/12/2024Dyddiad cau:
02/01/2025Lleoliad:
Ceredigion -
Gweithiwr Cymorth ac Allgymorth
Postio:
10/12/2024Dyddiad cau:
02/01/2025Lleoliad:
Ceredigion
Postio: 02/03/2022
Dyddiad cau: 22/03/2022
Lleoliad:Y Drenewydd, Llanbedr Pont Steffan neu
Aberystwyth
Postio: 14/04/2022
Dyddiad cau: 10/05/2022
Lleoliad: Glascoed, Llandysul
Postio: 29/04/2022
Dyddiad cau: 25/05/2022
Lleoliad:Drenewydd
Posted: 01/12/2021
Closing Date: 05/01/2022
Location:Lampeter or Newtown
Posted: 01/12/2021
Closing Date: 06/01/2022
Location: Aberystwyth and Lampeter
Posted: 06/12/2021
Closing Date: 06/01/2021
Location:Llanbedr, Aberystwyth
Posted: 09/12/2021
Closing Date: 05/01/2022
Location:Lampeter or Newtown
SWYDDI GWAG GYDA’N HIS-GWMNÏAU
Mae ein his-gwmnïau yn lleoedd gwych i weithio ynddynt hefyd! Dyma’r cyfleoedd
diweddaraf sydd ar gael:
Vacancies coming soon
Posted: 24/011/2021
Location: Newtown, Powys
Postio: 14/03/2022
Lleoliad: Y Drenewydd
Dyddiad cau: 13/04/2022
Postio: 15/03/2022
Lleoliad: Y Drenewydd
Dyddiad cau: 05/04/2022
Postio: 18/03/2022
Lleoliad: Y Drenewydd
Dyddiad cau: 11/04/2022
I ymgeisio am unrhyw swydd gydag EOM, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol
(gan nodi’n glir pa swydd yr ydych yn ymgeisio amdani) i HRTeam@barcud.cymru
Mae Barcud yn lle gwych I weithio. Dyma pam
Rydym yn cadw’n brysur drwy reoli, uwchraddio a darparu tai i bobl ar draws y canolbarth a’r gorllewin – o’r gororau yn Sir Amwythig, drwy Bowys i Geredigion, Gogledd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Rydym yn cyflawni canlyniadau gwych drwy fuddsoddi yn y tîm gorau, ac rydym am i’r gwaith yr ydym yn ei wneud fod yn bwysig i’n staff i gyd. Mae pob adran yn ein busnes yn gweithio tuag at gyflawni’r un nod. Mae ein gwaith yn bwysig i ni. Ac rydym yn ymfalchïo yn hynny.
Rydym yn landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n darparu ystod eang o dai cymdeithasol – fflatiau, tai, byngalos a llety gwarchod i’w rhentu –yn ogystal ag eiddo rhent canolradd lle mae’r rhent yn uwch na rhent cymdeithasol ond yn is na marchnad y sector preifat, sy’n bwysig.
Mae gennym gartrefi newydd hefyd sy’n cynnig ffyrdd mwy creadigol o gynorthwyo pobl leol i gael eu troed ar yr ysgol eiddo a chael cartrefi sy’n agos i’w gwaith a’u teulu yn ein cymunedau gwledig yng Ngheredigion, Powys, Gogledd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin drwy ranberchnogaeth (mae mwy o fanylion a’r lleoliadau i’w gweld ar ein prif wefan).
Mae Ceredigion ac ardaloedd gwledig canolbarth Cymru yn cynnwys cymunedau lle mae llawer o bobl yn siarad Cymraeg, ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cyflogi siaradwyr Cymraeg ac yn annog dwyieithrwydd ym mhob peth a wnawn.
Os ydych yn siarad Cymraeg, mae hynny’n grêt! Os nad ydych yn siarad Cymraeg, peidiwch â phoeni oherwydd gallwn eich helpu. Mae gwersi Cymraeg a mentoriaid ar gael i’r aelodau o staff sydd am ddysgu Cymraeg neu loywi eu hiaith.
Rydym bob amser yn chwilio am staff newydd. Os ydych yn ymfalchïo yn yr hyn yr ydych yn ei wneud, yn aelod da o dîm ac yn dda am gyfathrebu, mae angen i ni gael sgwrs.
Mae hyfforddiant, datblygiad a gwelliant personol parhaus i gyd yn bwysig pan fyddwch yn dod i weithio i Barcud.
Caiff cyfleoedd o ran datblygiad personol a phroffesiynol eu cynnig er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael gwasanaeth gwych a bod ein gweithwyr yn elwa hefyd. Rydym yn annog gweithwyr i ennill cymwysterau proffesiynol sy’n berthnasol i’w hadrannau. Caiff gweithwyr sy’n cael eu clustnodi’n arweinwyr y dyfodol eu hystyried ar gyfer cynlluniau hyfforddi a datblygu wedi’u teilwra.
Mae hyfforddiant ar gael hefyd i’r sawl sy’n fodlon yn eu rôl bresennol, er mwyn sicrhau bod sgiliau a galluoedd yn cael eu diweddaru. Rydym yn defnyddio ymgynghorwyr hyfforddi arbenigol a chyrsiau hyfforddi allanol yn ôl yr angen. Mae Barcud yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Rydym am sicrhau bod Barcud yn cael ei gydnabod ledled canolbarth Cymru fel lle gwych i weithio. Mae’n bwysig bod ein staff i gyd yn gallu sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a’u bod yn teimlo bod eu hymdrechion i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf yn cael eu gwerthfawrogi.
Fel arwydd o ddiolch, rydym wedi datblygu pecyn o fuddion sy’n ein galluogi i ddenu’r staff gorau, eu cymell a’u cadw.
Rydym yn cynnig cyflogau cystadleuol a phecyn gwych o fuddion sy’n cynnwys gwyliau blynyddol hael, trefniadau gweithio hyblyg a chynllun pensiwn grŵp gyda chyfraniad gan y cyflogwr.
Fel gweithiwr, gallwn gynnig y canlynol i chi:
- 23 diwrnod o wyliau’r flwyddyn (sy’n cynyddu o 1 diwrnod pob blwyddyn hyd at 30 diwrnod) + gwyliau banc a gwyliau Nadolig
- Cyflog cystadleuol
- Prentisiaethau
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Cynllun pensiwn
- Tâl mamolaeth a thadolaeth uwch
- Cerbyd staff / costau teithio
- Cymorth o ran hyfforddiant a datblygiad
- Talu am brawf llygaid
- Amser i ffwrdd o’r gwaith i fynd i apwyntiadau meddygol
- Pecyn adleoli (ar gyfer rhai swyddi)
- Iechyd galwedigaethol
- Absenoldeb salwch gyda thâl
- Absenoldeb tosturiol
- Gwisg ac offer diogelwch
- Potensial i ddatblygu eich gyrfa
- Talebau gofal plant
- Iechyd a lles galwedigaethol
- Cymorth i wneud gwaith elusennol
- Cymorth o ran iechyd a diogelwch
- Parti Nadolig y mae’r gymdeithas dai yn talu amdano
- Cynhadledd staff (gyda chinio!)
- Amser i ffwrdd i gyflawni gwasanaeth cyhoeddus
- Tâl am ddyletswyddau ychwanegol – swyddog Cymorth Cyntaf penodedig
- Mynediad yn rhad ac am ddim i wasanaeth cwnsela
- Te a choffi am ddim
- Ystod lawn o bolisïau ysgrifenedig
- Talu am aelodaeth o gyrff proffesiynol
- Cynllun beicio i’r gwaith – cymorth i brynu beic
Mae ein prif swyddfa yn Llanbedr Pont Steffan. Mae gennym swyddfeydd yn y Drenewydd, Aberystwyth ac Aberteifi hefyd. Mae ein cynlluniau llety gwarchod yn Bow Street, Aberystwyth, Llan-non, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul ac Aberteifi.
Mae gan Grŵp Barcud 4 o is-gwmnïau
Mae timau Medra (Cynnal a Chadw) yn gweithio yng Ngheredigion, Gogledd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin
Mae EOM (Cynnal a Chadw) yn gweithio ym Mhowys a’r gororau
Gofal a Thrwsio Powys
Y Gymdeithas Gofal
Tai,
Cynnal a Chadw ac Adeiladu,
Cyllid,
Datblygu,
Adnoddau Dynol,
Cyfathrebu.
Rydym yn angerddol ynghylch darparu gwasanaeth ardderchog, ac ar hyn o bryd mae gennym 250 o aelodau o staff sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’n llwyddiant.
Rydym yn cydnabod mai pobl yw ein hased pwysicaf, a dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein staff a chreu gweithlu hapus a brwdfrydig.
Rydym yn buddsoddi’n drwm mewn hyfforddi a datblygu staff, o fewn cyfuniad o fentrau i reolwyr, unigolion a’r sefydliad cyfan. Gallwch ddarllen mwy am y cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo yn ein Cynllun Busnes.
Os ydych yn awyddus i ddefnyddio eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch gallu i wneud gwahaniaeth go iawn, os ydych yn gallu canolbwyntio ar gwsmeriaid ac os ydych yn benderfynol o ddarparu gwasanaethau o safon, edrychwn ymlaen at gael cais gennych.
Vacancies coming soon
For more information please contact HRTeam@barcud.cymru