Datganiad gan Alison Thorne, Cadeirydd Barcud.
“Ar ôl rhyw 16 mlynedd wrth y llyw, yn adeiladu Tai Ceredigion yn gyntaf, ac yna, ar ôl uno Tai Ceredigion â Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru a ffurfiodd Barcud, gan arwain y gwaith integreiddio, mae Steve Jones wedi penderfynu mai nawr yw’r amser iawn i symud ymlaen i heriau newydd. Mae Bwrdd Grŵp Barcud yn diolch i Steve am ei waith a’i ymrwymiad dros y blynyddoedd ac yn dymuno’n dda iddo. Rydym nawr yn dechrau chwilio am Brif Weithredwr Grŵp newydd i arwain Barcud ymlaen. Yn y cyfamser, bydd y Tîm Rheoli yn parhau i sicrhau bod gwasanaethau a gweithrediadau hanfodol Barcud yn cael eu cynnal, gyda chefnogaeth y bartneriaeth gref gyda’n tenantiaid trwy Grŵp Monitro Barcud.
Meddai Steve Jones: “Bu’n fraint arwain y gwaith o greu cymdeithas TSRF Tai Ceredigion yn 2009, a’r broses uno yn 2020 i ffurfio Barcud; gweithio gyda thimau staff ac aelodau Bwrdd ymroddedig. Rwy’n falch iawn o’n gwelliannau mawr i dai carbon isel, cartrefi deiliadaeth gymysg newydd, a gwasanaethau cymunedol gwledig dwyieithog. Yn bennaf oll, rwy’n ddiolchgar i’r cynrychiolwyr tenantiaid sydd wedi gweithio ochr yn ochr â ni i ddylunio a monitro’r gwaith hwn, gan arwain at gydnabyddiaeth sector fel sefydliad arfer gorau ymgysylltu â thenantiaid. Dymunaf bob llwyddiant i Barcud adeiladu ar y seiliau cadarn hynny yn y dyfodol.”