Prif Weithredwr Grŵp Barcud Hysbyseb

Prif Weithredwr Grŵp
Canolbarth/Gorllewin Cymru
Pecyn oddeutu £135,000


A ninnau wedi’n gwreiddio’n ddwfn ar draws Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, a Sir Benfro, yn Barcud, rydym yn uchelgeisiol i wneud mwy i greu sylfeini cadarn, gwell cartrefi a chymunedau cryf. Rydym yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn y rhanbarth a ni yw’r prif grŵp tai cymunedol. Ar yr un pryd â pharhau i gyflawni mwy o fuddsoddiad yn ein 4200 o gartrefi fforddiadwy, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol hefyd i adeiladu cartrefi carbon isel, effeithlon o ran ynni, i’w rhentu a’u prynu bob blwyddyn. At hynny, mae Barcud yn cynnig cefnogaeth ehangach i’r rhai sydd fwyaf bregus, gan gynnwys cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth.


Rydym yn chwilio Prif Weithredwr Grŵp sy’n rhannu ein hymroddiad i gyflawni mwy i’n cymunedau gwledig a profiad gwych i’n tenantiaid. Mae cyfle i arloesi, felly rydym yn chwilio am arweinydd blaengar, deinamig. Byddwch yn hawdd dod atoch, â ffordd gadarnhaol a chithau’n ennyn brwdfrydedd staff, tenantiaid a phartneriaid ac yn eu hysbrydoli. Mewn cydweithrediad â’n tîm gweithredol, byddwch yn arwain ac yn meithrin diwylliant sy’n wirioneddol â’i ffocws ar gwsmeriaid ac yn gynhwysol.

Yn frwdfrydig ynghylch pobl, byddwch yn arweinydd sy’n rhoi grym yn nwylo pobl â ffordd ddiffwdan, ddiffuant a dymunol. Nid oes angen ichi fod wedi’ch sefydlu fel Prif Weithredwr; eto, fe fydd arnoch angen profiad o gyflawni strategaeth, gweithredu newid er gwell ac arwain tîm medrus, amlddisgyblaethol a gwasgarog. Â phrofiad o arweinyddiaeth uwch a gawsoch ym maes tai neu mewn sector a reoleiddir mewn ffordd gyffelyb â phobl a chwsmeriaid wrth ei chraidd, fe ddewch â hanes blaenorol sylweddol, gan gyflawni canlyniadau sy’n gyson drawiadol a deilliannau nodedig i’r gymuned.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael o www.join-barcud.cymru. Os ydych am drafod y cyfle ymhellach, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Chantelle Harris ar 07384 460191, Nick Roberts ar 07393 013697 neu Sandra Jones ar 07393 013697 yn GatenbySanderson. 9:00am ddydd Iau, 30ain Tachwedd yw’r dyddiad cau.