Yn lle rhodd Nadolig, mae Barcud yn cofio’r Banciau Bwyd bob blwyddyn newydd ac yn ddiweddar ymwelodd staff ag Aberystwyth ac Aberteifi i ollwng cyflenwadau a chymorth ariannol i’w cynorthwyo.
Derbyniodd cydweithwyr Barcud, Tess Price ac Ursula Coote restr siopa gan y Banc Bwyd lleol yn ddiweddar a mynd ati i ddarparu troli yn llawn cyflenwadau mawr eu hangen i Fanc Bwyd Aberteifi.
Wrth ymweld â banc bwyd y Jiwbilî Storehouse yn Eglwys y Santes Anne ym Mhenparcau, cyfarfu ein Prif Weithredwr Dros dro Kate Curran a’r Swyddog Tai Ffion Evans â Catherine Griffiths, un o’r gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n rhedeg y cyfleuster prysur hwn. Gyda dros 35 o wirfoddolwyr brwdfrydig, mae’r tîm yn casglu, pacio a dosbarthu dros 180 o barseli bwyd i deuluoedd anghenus bob wythnos. Mae’r argyfwng costau byw wedi gweld pecynnau wythnosol yn cynyddu o 50-70 yn 2022 i 180 ym mis Ionawr 2024.
Gyda chleientiaid yn cysylltu â’r banc bwyd o Aberaeron yn y de i Fachynlleth yn y gogledd, mae’r gwirfoddolwyr yn brysur iawn yn casglu, didoli a dosbarthu nwyddau.
Rhoddwyd rhoddion hefyd i Fanciau Bwyd ym Mhowys.
Ydych chi wedi gweld ap MY FOODBANK NEEDS? Lawr lwythwch yr ap ar eich ffôn a byddwch yn gwybod yn union beth sydd ei angen ar eich banc bwyd lleol a ble mae eich mannau gollwng lleol. Mae’n ffordd wych a hawdd o gefnogi a darparu cyflenwadau y mae eu hangen ar y pryd