Dyfarniad Rheoleiddio Interim

++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++ Barcud Cyfyngedig – Dyfarniad Rheoleiddio Interim Asesiad: Mawrth 2021. Cymdeithas dai a ffurfiwyd yn Nhachwedd 2020 yw Barcud, yn dilyn uno Tai Ceredigion â Thai Canolbarth Cymru. Mae’r dyfarniad rheoleiddio hwn ar gyfer Barcud yn disodli’r dyfarniadau blaenorol a gyhoeddwyd ar gyfer y cymdeithasau tai hynny. · Llywodraethu (gan gynnwys gwasanaethau i denantiaid) – Safonol · Hyfywedd Ariannol – Safonol …

Adeilad newydd, enw newydd, bywyd newydd

Wrth i waith fynd rhagddo yn dda ar safle hen Adeiladau’r Llywodraeth yn Llanbedr Pont Steffan, mae’n bleser gan Barcud gyhoeddi mai enw’r Ganolfan Fusnes newydd fydd Creuddyn. Bydd yr adeilad newydd, sydd tua 250 metr o Nant Creuddyn, yn cynnig unedau busnes modern o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau lleol, y sector gofal cymdeithasol a mudiadau elusennol a bydd …

Ymunwch â ni!

Mae Barcud a’i is-gwmnïau, sef Gofal a Thrwsio Powys ac EOM Electrical Contractors Ltd (EOM), yn chwilio am aelodau Bwrdd i ymuno â’r tîm. Barcud yw cymdeithas dai fwyaf newydd Cymru. Ynghyd â’i is-gwmnïau, sef Gofal a Thrwsio Powys ac EOM Electrical Contractors Ltd (EOM) – ein cwmni cynnal a chadw masnachol, cafodd y gymdeithas dai ei chreu ym mis …

DATBLYGIADAU CYFFROUS YN YR YSTOG

Gall fod yn wirioneddol anodd i’r sawl sy’n awyddus i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain gael eu troed ar yr ysgol eiddo. Dyna pam yr oedd Barcud yn falch o weld rhagor o deuluoedd yn symud i mewn i’w cartref “Rhentu i Berchnogi” newydd ddechrau mis Rhagfyr. Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw’r cynllun “Rhentu i …

Creuddyn yn agor ei ddrysau i fusnesau lleol

Mae canolfan fusnes newydd yn Llanbedr Pont Steffan wedi cael ei hagor yn swyddogol yr wythnos hon at ddefnydd y gymuned a busnesau. Cafodd canolfan Creuddyn ei hagor gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, ar 4 Tachwedd 2021 mewn araith a oedd wedi’i recordio oherwydd nad oedd modd iddo fynychu’n bersonol. Roedd yr Aelod o’r Senedd dros …

Cymorth adeg y Nadolig i Oergelloedd Cymunedol a Banciau Bwyd

Mae Barcud wedi cyfrannu rhoddion i oergelloedd cymunedol a banciau bwyd ledled y canolbarth y Nadolig hwn. Mae 13 o gyfraniadau wedi’u rhoi ar draws Ceredigion a Phowys er mwyn cynnig cymorth dros gyfnod yr ŵyl. Mae gwaith y gwirfoddolwyr a’r cefnogwyr sy’n gofalu am yr oergelloedd cymunedol a’r banciau bwyd hyn yn cyffwrdd rhywun. Mae ein tîm Tai a’n …

Y Cynghorydd Hag Harris

Gyda thristwch, cawsom y newyddion ddoe am farwolaeth sydyn Cynghorydd Tref Llanbedr Pont Steffan a Cheredigion, Hag Harris. Hag oedd Cadeirydd cyntaf Bwrdd Tai Ceredigion. Roedd yn gefn cadarn yn ystod y broses o drosglwyddo stoc ac fel rhan o’r Bwrdd, cafodd effaith sylweddol yn y modd y tyfodd y staff a’r busnes yn y blynyddoedd cynnar. Roedd gan Hag …

Barcud yn cwblhau trefniant ailgyllido yn dilyn yr uno

Barcud yn cwblhau trefniant ailgyllido yn dilyn yr uno, sy’n hybu’r gwaith o gyflawni un o’n hamcanion strategol, sef darparu 5,000 o gartrefi deiliadaeth gymysg, sy’n gartrefi fforddiadwy a chynaliadwy o safon, erbyn 2025 Yn dilyn dros ddwy flynedd o gynllunio, cafodd y broses o uno dwy gymdeithas dai yn y canolbarth a’r gorllewin ei chwblhau ar 1 Tachwedd 2020. …