Ar hyn o bryd, mae’r Gymdeithas yn rheoli dros 4000 o gartrefi. Mae’r rhan fwyaf o’r rheiny wedi’u gwasgaru ar draws pedair sir yn y canolbarth a’r gorllewin.
Ein dyhead yw parhau i ehangu ein stoc a chynorthwyo i ddiwallu’r angen am dai fforddiadwy ym mha bynnag ffurf ledled Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Gogledd Sir Benfro. Rydym wedi ymrwymo i nifer o ddatblygiadau mawr a bach ar draws y rhanbarth yn unol â’n Strategaeth Ddatblygu gyfredol.
Rydym yn awyddus i glywed am safleoedd lle ceir cyfleoedd datblygu a allai helpu i ddiwallu’r angen am dai a nodwyd yn lleol. Gallent gynnwys safle yr ydych yn dymuno ei werthu, safle yr ydych yn dymuno ei ddatblygu lle gallem brynu rhan neu’r cyfan ohono, neu eiddo lle mae Cytundeb Adran 106 mewn grym i ddatblygu tai fforddiadwy.
Byddwn hefyd yn ystyried safleoedd sydd wedi’u datblygu yn rhannol neu sydd wedi’u cwblhau.
MEINI PRAWF AR GYFER CYFLEOEDD DATBLYGU
Isod ceir disgrifiad o’r math o gyfleoedd y byddai gennym ddiddordeb ynddynt, a byddem yn falch o glywed am unrhyw gyfleoedd datblygu sy’n bodloni’r meini prawf hyn yn eich barn chi.
Sylwer: Anaml iawn y byddwn yn ystyried prynu eiddo unigol sydd ar werth.
ADEILADU TAI FFORDDIADWY AR GYFER EICH CYMUNED
Os ydych yn meddwl eich bod yn gwybod am gyfle datblygu a fyddai o ddiddordeb i Barcud, dyma’r camau y mae angen i chi eu cymryd yn awr:
1. Os hoffech gysylltu â ni gyda manylion am safle neu ddatblygiad sydd ar gael i ni ei ystyried, dylech lenwi a chyflwyno’r Ffurflen Ymholiad gan Ddatblygwr.
2. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon yr holl atodiadau yr ydym yn gofyn amdanynt, ar gyfer pob cyfle datblygu.
3. Arhoswch i glywed gennym – byddwn yn ceisio ymateb cyn pen pythefnos er mwyn rhoi gwybod i chi a oes gennym ddiddordeb ai peidio. Os oes gennym ddiddordeb, byddwn yn eich gwahodd i ddod i siarad â ni’n fanylach am y cyfleoedd ac am sut y gallem gydweithio.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
GOFYNION SYLFAENOL
Rydym wrthi’n ddiwyd yn ceisio sicrhau bod ein ffurflen gyswllt yn gweithio unwaith eto. Os hoffech gysylltu â ni drwy ebost, defnyddiwch y ddolen gyswllt isod: