Os ydych yn chwilio am eiddo cymdeithasol i’w rentu, eiddo rhent canolradd neu eiddo sy’n perthyn
i gynlluniau Cymorth i Brynu er mwyn prynu eich cartref cyntaf, gall Barcud helpu.
Mathau o gartrefi
Cyn gwneud cais am gartref gyda chymdeithas dai, rhaid yn gyntaf i chi gofrestru gyda’r awdurdod
lleol yn yr ardal yr hoffech fyw ynddi.
1) Penderfynwch ar yr ardal yr hoffech fyw ynddi
2) Cofrestrwch gyda’ch Cyngor lleol
Pan fyddwch wedi nodi eich manylion a phan fydd eich cais wedi’i brosesu gan y Cyngor Sir
perthnasol, byddwch yn cael gwybod beth yw eich statws o ran blaenoriaeth ar gyfer cael eich
ailgartrefu, e.e. yng Ngheredigion bydd eich cais yn cael ei roi mewn band a bydd y graddau y mae
tai addas ar gael yn dibynnu ar y band y mae eich cais ynddo.
Cofiwch fod yn RHAID i chi gofrestru – os nad ydych ar y Gofrestr Tai, ni ellir eich ystyried ar gyfer
cartref.