CARTREFI I’W PRYNU
Rydym yn adeiladu cartrefi newydd i’w rhentu a’u prynu ar draws y rhanbarth.
Mae gwybodaeth ddefnyddiol am y cynllun i’w chael isod:
Mae ein cartrefi sydd o safon uchel ac sy’n defnyddio ynni’n effeithlon ar gael i’w prynu.
Click here Cliciwch yma i anfon ebost atom er mwyn gofyn am fwy o wybodaeth: post@barcud.cymru
Mae Barcud yn rhan o gynllun Rhentu i Berchnogi Llywodraeth Cymru ledled Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Os nad ydych wedi cynilo digon ar gyfer blaendal i brynu eich cartref eich hun, gallai Rhentu i Berchnogi - Cymru, sef cynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, eich helpu i gael eich troed ar yr ysgol eiddo. Mae’r cynllun yn eich galluogi i dalu rhent y farchnad am eiddo newydd sbon a chynilo swm ar yr un pryd ar gyfer blaendal i’ch galluogi i brynu’r eiddo.